Cyflwyno Fframwwaith Ymchwil ar gyfer Archaeoleg Cymru

 

 

www.archaeoleg.org.uk

 

 

 

 

Rydych chi yma: Cartref > Cyflwyniad

 

CYFLWYNIAD

Mae angen i Gymru wybod am ei gorffennol. Mae deall hanes diwylliant yn hanfodol i’w dwf a’i ddatblygiad parhaus a bu archaeolegwyr yng Nghymru yn cyfrannu at y broses hon ers tua dwy ganrif, gan gloddio safleoedd a cheisio dehongli’r hyn y gallant ei ddweud wrthym. Ond mae’r gorffennol yn cadw llawer o gyfrinachau o hyd, a rhaid i wybodaeth am adeiladau, henebion a thirweddau Cymru barhau i ddatblygu. Mae’r wefan hon yn cynnwys y fframwaith ymchwil sy’n nodi rhai cwestiynau allweddol y mae angen eu hateb o hyd ac yn gwerthuso’r cyflawniadau a wnaed eisoes.

Yn 2001, dechreuodd y gymuned archaeolegol yng Nghymru ar y gwaith o greu fframwaith ymchwil. Ers y dechrau, cydnabuwyd bod rhaid adolygu a diweddaru unrhyw fframwaith ar gyfer ymchwil yn rheolaidd ac rydym newydd gwblhau'r drydedd adolygiad o'r papurau gwreiddiol.

Roedd yr adolygiad yn dasg anodd y tro hwn gan ei fod yn cyd-daro â'r cyfnod clo Covid. Roedd pawb dan bwysau ychwanegol i greu amser a lle i feddwl. Rydym yn ddiolchgar iawn i bawb a gymerodd ran.

Ni adolygwyd tair thema y tro hwn: Rhufeinig, Canoloesol ac Ôl-Ganoloesol (1539 - 1750), felly defnyddiwch yr ail adolygiad ar gyfer y rheini. Ni ddatblygwyd thema newydd - Addasu i'r Hinsawdd - ymhellach ond mae yna ddolenni i ddogfennau gan Lywodraeth Cymru ac eraill ar ein gwefan.

 

 

Amdanom Ni


 

Cloddiad cist gladdiad o’r Oes Efydd cynnar yn Fan Foel, Sir Gaerfyrddin,ym mis Mehefin 2004. (h)Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed

Cloddiad cist gladdiad o’r Oes Efydd cynnar yn Fan Foel, Sir Gaerfyrddin,ym mis Mehefin 2004.
(h)Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed