CYMRU
BALAEOLITHIG A MESOLITHIG (250,000CC – 4,000CC)
Mae’r cyfnodau Palaeolithig a Mesolithig
yng Nghymru yn rhychwantu bron i 250,000 o flynyddoedd o’r
Neanderthaliaid cyntaf i ymddangosiad cymunedau ffermio 6,000
o flynyddoedd yn ôl, ond mae effeithiau dinistriol y
rhewlif olaf yn golygu mai dim ond tystiolaeth brin sydd wedi
goroesi. Dylanwadwyd ar bresenoldeb dynol gan newid amgylcheddol
trwy gydol y cyfnod hwn.
Rhannau/crynodebau o'r blaenoriaethau
ar gyfer pob cyfnod yw'r darnau canlynol. Ceir y testun llawn
trwy glicio ar y cysylltiad isod i'r Adroddiad
Terfynol i Gymru Gyfan.
-
Gwladychu ac ail-wladychu
- Mae angen gwell dealltwriaeth ynghylch pryd gwnaeth
pobl gyrraedd a diflanu, a pham.
-
Patrymau a hanes anheddu
- Mae angen egluro dosbarthiad safleoedd anheddu a’r
cydberthnasau rhyngddynt, wedi’i danategu gan gronoleg
well.
-
Trefn gymdeithasol a chredoau
- Mae angen gwell dealltwriaeth o’r rhyngweithio
rhwng pobl, er enghraifft drwy gymhwyso dulliau modern
o ymchwilio i’r defnydd a wnaed o ddeunyddiau crai
ac arferion claddu cynnar, a chwilio am dystiolaeth o
gelfyddyd ogofâu.
Ni pharatowyd unrhyw bapurau seminar ar y thema hon
yn 2003. Yn lle hynny cyflwynwyd papur Cymru Gyfan i'r seminarau
rhanbarthol.
|
|
Cloddiad ar Burry
Holms, Gwyr, Abertawe, yn archwilio safle anheddu
Mesolithig cynnar o dan dy crwn cynhanesyddol diweddarach.
(h)Amgueddfa Genedlaethol Cymru |
|
Cloddiadau ymchwil
ym 1996 i archwilio'r man y darganfuwyd ysgerbwd "Dynes
Goch" Ogof Pen-y-fai, Gwyr, Abertawe.
(h)Amgueddfa Genedlaethol Cymru |
|
Adluniad o anheddiad
Mesolithig cynnar, yn seiliedig ar ddarganfyddiadau
o Nab Head, Sir Benfro.
(h)Amgueddfa Genedlaethol Cymru |
|