SUT
Y CYNHYRCHWYD Y FFRAMWAITH?
Roedd y cam cyntaf o ddatblygu’r fframwaith
yn cynnwys pedwar archwiliad rhanbarthol i nodi’r wybodaeth
sy’n bodoli eisoes fel yr adlewyrchwyd mewn ffynonellau
cyhoeddedig, gyda chymorth grant Cadw, ac a gynhaliwyd gan
bedair Ymddiriedolaeth Archaeolegol Cymru. Dilynwyd hyn gan
asesiad o’r wybodaeth gyfredol a datblygu agenda ymchwil
i nodi bylchau. Cafodd gweithgorau rhanbarthol y dasg o archwilio
cyfnodau a themâu. Pan gyflwynwyd eu canfyddiadau mewn
seminarau yng Nghaerfyrddin, y Trallwng, Bangor a Chaerdydd,
roedd amrywiaeth y cyfranogwyr yn dangos bod pob sector o
archaeoleg Cymru yn awyddus i fod yn rhan o’r gwaith,
yn cynnwys unigolion preifat a sefydliadau llywodraethol,
addysgol, gwirfoddol a masnachol. Ystyriodd seminar yn Aberystwyth
ym mis Medi 2004 yr agenda genedlaethol ar gyfer pob un o’r
cyfnodau a themâu a amlinellwyd eisoes ar lefel ranbarthol.
Y cam terfynol oedd y strategaeth ymchwil, sef rhestr o amcanion
â blaenoriaeth y gellid eu datblygu ymhellach drwy ymchwil.
Sut y caiff y fframwaith
ei ddefnyddio?
|

 |
Golygfa o’r
awyr o gloddiad anheddiad cyn hanesyddol hwyr ym Mharc
Cybi, Ty Mawr, Caergybi,Ynys Môn,yn ystod haf
2007.
(h)Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd
|
|